Cefndir

Hanes gwahodd yr Ŵyl Cerdd Dant i Stiniog, gan Iwan Morgan.
(Addasiad o erthyglau a ymddangosodd yn Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog.)

Ym mis Mai 2016, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd Ysgol y Moelwyn gan John Eifion, trefnydd y Gwyliau Cerdd Dant. Daeth criw bychan at ei gilydd a phenderfynwyd yn unfrydol i wahodd yr Ŵyl i’r dref yn 2018.


Mae Gŵyl Cerdd Dant Cymru yn un o wyliau ‘un diwrnod’ mwyaf Prydain os nad Ewrop, a theimlad llawer ohonom ydy ei bod hi’n fraint ac anrhydedd cael ei gwahodd yma am y tro cyntaf yn ei hanes. Tuedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Phrifwyl yr Urdd, pan gaiff ei gwahodd gennym ni’r Meirionwyr, ydy dewis y Bala neu Ddolgellau fel lleoliad. Dyma gyfle i ni, garwyr ‘Y Pethe’ estyn croeso ‘Stiniog i Ŵyl genedlaethol mor safonol.

Ar droad y ganrif cyn y ddwytha, roedd yr hen gelfyddyd o ganu gyda’r tannau hefyd yn rhan o fwrlwm y fro hon. Canolwyd hyn o amgylch telynor oedd yn gwbl ddall, sef, David Francis (Telynor Dall o Feirion) - un y mae ei ddisgynyddion yn parhau i gynnal y pethe yn yr ardal heddiw.

Mae’r diolch i’r Doctor Robert Roberts, meddyg lleol, a drefnodd i’r telynor gael addysg mewn ysgol i’r deillion yn ninas Lerpwl, ac ymhellach, i gael gwersi telyn. I gartre’r telynor yn y Llechwedd, ac yna i’r caban a elwid ‘Llys y Delyn, Adwy Goch, Rhiwbryfdir’ y cyrchai nifer o ‘egin-ddatgeiniaid’ i drafod y gelfyddyd, i ganu, ac i ddysgu sut i osod gair ar gainc.

Iwan a Chôr Cerdd Dant Lliaws Prysor

Pwy oedd y rheiny, a phwy ddaeth ar eu holau i barhau’r traddodiad yma’n Stiniog? Dydy gofod ond yn caniatáu i mi wneud dim mwy na’u henwi. Dyna i chi W.O. Jones (Eos y Gogledd) - chwarelwr yng Nghwmorthin; David John Roberts (Dewi Mai o Feirion) - a osododd drefn ar draddodiad cerdd dant yng Nghymru yn hanner cynta’r ugeinfed ganrif; John David Jones (Ioan Dwyryd) a’i ddisgynyddion.

Cofiwn Elinor a’r annwyl Gwenllïan, a fu mor hynod weithgar dros nifer faith o flynyddoedd fel athrawes telyn deithiol ac yn hyfforddi datgeiniaid; William Morris Williams, Tanygrisiau, a fu’n hyfforddi dwy genhedlaeth ‘Côr Telyn Barlwyd’ ... ac i ddod yn nes at ein dyddiau ni, Mona Meirion ac Einir Wyn.

Ymwelodd y prif wyliau â Meirionnydd sawl gwaith yn ystod yr ugeinfed ganrif a dechrau’r ganrif yma. 1898 oedd yr unig dro i’r Brifwyl ymweld â thre’r Blaenau, a chynhaliwyd Prifwyl yr Urdd yma unwaith – ym 1936.

Ers ei chychwyn ym 1947, ni chynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant yma o gwbl. [Gwir ydy dweud, er hynny, iddi fod unwaith yn nalgylch Llafar Bro – a hynny yn Nhrawsfynydd, pan oedd yn ei babandod ym 1957.]

Yn 2018, cawn unioni’r cam, a bydd yna gyfle i ninnau’r trigolion estyn cynhesrwydd ein croeso i’n cyd-wladwyr. Mae’r amrywiol weithgareddau sydd wedi cymryd lle yn yr ardal dros y blynyddoedd dwytha wedi profi’n llwyddianus, a’r gymuned wedi eu cefnogi â brwdfrydedd.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n ddatgeiniaid cerdd dant neu’n delynorion, yn gantorion neu ddawnswyr gwerin, nac ychwaith yn llefarwyr, ymunwch efo ni i drefnu ‘GŴYL’ fydd yn dangos i Gymru gyfan fod fflam Cymreictod a’i diwylliant eto’n bodoli ym Mro Stiniog.
- - - - - -

Cyngerdd Cyhoeddi
Cafwyd cyngerdd llwyddianus iawn ar y 14eg o Hydref gyda llu o artistiaid, gan gynnwys Côr Meibion Prysor efo datganiad arbennig iawn o'r Cywydd Croeso, gan gadeirydd yr Ŵyl, Iwan Morgan:

Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

---------------
Mae fideo o Feibion Prysor yn canu'r Cywydd Croeso yn ein adran newyddion.